Gwybodaeth Apwyntiadau/Ymgynghoriadau

Mae nifer o opsiynnau gandomm ar gyfer apwyntiadau ar gyfer ein cleifion. Apwyntiadau wyneb yn wyneb-bwcio y bore hwnnw, neu mae modd bwcio o flaen llaw ac hefyd mae opsiwn o fwcio apwyntiad dros y ffon ar y diwrnod. Gallwch drefnu apwyntiad drwy ffonio neu ebostio'r feddygfa. Mae modd trefnu apwyntiad o flaen llaw dry ddefnyddio Fy Iechyd Ar-lein. Pan yn trefnu apwyntiad bydd ein staff yn gofyn i chi am reswm dros yr apwyntiad, mae hyn fel gallwn neud yn siwr eich bod yn cael y gwasanaeth cywir. Os oes claf o dan 16 oed yn cysylltu gyda’r feddygfa gyda problem llym, byddwn yn cynnig apwyntiad ar frys dros y ffôn/ fideo neu wyneb i wyneb. Yn ogystal, os oes claf angen gwasanaeth brys byddem yn cynnig asesiad brys yr un diwrnod neu o fewn 24 awr. (Ffôn/ fideo neu wyneb i wyneb)

Mae ein llinellau ffôn ar gael rhwng 8yb i 6:30yp Llun i Gwener.

Noder:

Ni fydd meddyg ar gael ar ol hanner dydd ar brynhawn Iau. Os fydd angen meddyg mewn brys, mae’r gofal meddygol yn cael ei ddarparu gan feddygon Gwalchmai. Fe allwch gysylltu a nhw drwy ffonio Meddygfa Parc Glas hyd at 6.30yh.