If you require a doctor URGENTLY outside normal working hours, please phone the Out-of-Hours number:
0300 123 55 66
Sut i Gofrestru:
Os ydych yn byw yn nhalgylch y practis neu newydd symud yma, dowch â’ch cerdyn meddygol a’i roi i’r derbynydd yn unrhyw feddygfa. Peidiwch â phoeni os nad oes gennych gerdyn, gallwch lenwi ffurflen newydd. Gofynnir i chwi lenwi holiadur meddygol a gwneud apwyntiad i gael archwiliad meddygol.
Mae’r practis yn gweithredu Rhestr Agored, h.y. derbynnir unrhyw glaf newydd yn y dalgylch o unrhyw hîl, rhyw, dosbarth, oed, crefydd, tuedd rhywiol, edrychiad, unrhyw anabledd neu unrhyw afiechyd. Ond hefyd sylwch ar ein polisi “Dim Goddefgarwch”.
Cyfrinachedd
Bydd pob mater yn cael ei drîn yn gyfrinachol, mae pob aelod o’r staff wedi arwyddo cymal cyfrinachedd.


