Siarter y practis

Mae’r practis yn gwneud pob ymdrech i ddarparu gofal claf o safon uchel ac mae’n chwilio’n gyson am ffyrdd o wella’r gwasanaethau i’r claf. Rydym yn rhestru isod safonau’r gwasanaeth y gellwch ei ddisgwyl gan y practis hwn. Gofynnwn i chwithau gydweithio â ni trwy drin ein holl staff yn gwrtais.

Safonau Gofal

Gan eich bod yn un o gleifion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd wedi cofrestru yn y ein practis, mae gennych hawl i’r canlynol:

  • Cwrteisi a pharch gan y staff
  • Preifatrwydd a chyfrinachedd wrth siarad gydag unrhyw aelod o’r staff
  • Cael apwyntiad ar y diwrnod neu cyn gynted ag y bo modd os oes angen i chi weld y doctor ar frys
  • Esboniad clir am unrhyw driniaeth y mae tîm y practis yn ei gynnig i chi
  • Disgwyl i’ch meddyginiaethau gael eu hadolygu’n gyson os ydych yn derbyn presgripsiwn sy’n cael ei ailadrodd
  • Cael eich cyfeirio at Arbenigwr sy’n dderbyniol gennych chi pan fo eich Meddyg Teulu (MT) yn credu bod angen hynny a chael eich cyfeirio am ail farn os ydych chi a’ch meddyg teulu yn cytuno bod angen hynny
  • Cael mynediad at eich cofnodion iechyd, yn gyson â’r Ddeddf Gwarchod Data. Ysgrifennwch at reolwr y practis os gwelwch yn dda os byddwch am weld y rhain neu am gael copïau. Efallai y bydd tâl bychan am y gwasanaeth.
  • Eich ymholiadau ffôn yn cael eu hateb yn sydyn a’n bod yn delio â nhw yn effeithlon
  • Cael gwybod am ganlyniadau unrhyw brofion, pelydr-x a chanlyniadau adran cleifion allanol os byddwch yn gwneud cais.

Byddwn yn gwneud ymdrech i gydymffurfio â’r holl geisiadau am apwyntiad gan gleifion. Yn ychwanegol gall:

  • Unrhyw gleifion cofrestredig sydd rhwng 16 a 74 ac sydd heb eu gweld ers tair blynedd, wneud cais am ymgynghoriad
  • Unrhyw gleifion cofrestredig sydd dros 75 oed ac sydd heb gael eu gweld ers 12 mis, wneud cais am ymgynghoriad. Os nad ydych yn gallu dod i’r feddygfa am yr ymgynghoriad oherwydd eich cyflwr meddygol, gallwn drefnu ymweliad cartref.

Sut y gallwch chi ein helpu ni i’ch helpu chi

  • Bod yn gwrtais gyda phob un o’r staff
  • Rhoi’r holl wybodaeth berthnasol am eich cyflwr a’ch hanes meddygol i’r doctor
  • Gadael i ni wybod pan fyddwch yn newid cyfeiriad neu rif ffôn – rhaid i ni ddiweddaru pob record
  • Cadw at eich apwyntiadau neu roi cymaint ag a allwch o rybudd os byddwch yn gorfod canslo
  • Defnyddio’ch apwyntiad ar gyfer un person yn unig
  • Peidio â disgwyl presgripsiwn bob tro y byddwch yn gweld y doctor – mae gweithredu ar ein cyngor yn gallu bod yn llawer mwy effeithiol na chyffuriau
  • Rhoi rhybudd o 48 awr cyn nôl presgripsiwn sy’n cael ei ailadrodd
  • Cofio gwneud cais am unrhyw ymweliad cartref cyn 10:00 a.m.
  • Galw’r doctor (tu allan i’r oriau arferol) mewn argyfwng yn unig, ac nid am driniaeth arferol, apwyntiad nac i gael presgripsiwn.

Gallwch ein helpu ni trwy adael i ni wybod os ydych yn anfodlon gyda’r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig, neu trwy gynnig sylwadau defnyddiol i ni ar gyfer eu gwella. Mae bocs awgrymiadau ar gael i chi gyfrannu sylwadau ar sut y gallwn wella’n gwasanaethau.