Polisi pryderon

Mae’r practis yn gweithredu ei Polisi Pryderon ei hunan – os oes gennych gwyn neu bryder am unrhyw fater neu aelod o’r tîm, cysylltwch â Rheolwr y Practis. Bydd hi yn egluro y camau pryderon. Fel arfer bydd y pryderon yn cael eu datrys gan y practis, ond os byddwch yn dal yn anhapus, gellwch gysylltu â’r ‘Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr’

Gweithio i Wella

Polisi Dim Goddefgarwch

Gweithredir Polisi Dim Goddefgarwch y Gwasanaeth Iechyd gan y practis. Mae hyn yn golygu NA fyddwn yn dioddef unrhyw gamymddwyn na thrais, yn gorfforol nac yn llafar tuag at unrhyw aelod o’r staff. Gallai unigolion sy’n ymddwyn yn anffarfiol gael eu cyfeirio at yr heddlu a’u tynnu oddi ar ein rhestr. Mae pob practis ar yr Ynys yn dilyn y drefn hon. Ni fydd unrhyw bractis yn derbyn claf sydd wedi ei wrthod gan bractis arall oherwydd ymosodiad neu gamymddwyn.

Darpariaeth i’r Anabl

Mae’n bosibl i’r anabl gyrraedd pob ystafell briodol o fewn y tair feddygfa.

Deddf Gwybodaeth Rydd

Yn unol â’r Ddeddf Mynediad i Adroddiadau Meddygol 1990, Deddf Gwarchod Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2004 mae gennych yr hawl i weld eich adroddiadau meddygol ac unrhyw wybodaeth arall (ond dim gwybodaeth am gleifion eraill) mae y practis yn ei ddal. Os dymunwch weld ein Polisi Rhyddid Gwybodaeth, gofynnwch i’r Rheolwr Cyfrifiadur. Gofynnir i chi dalu ffi am fynediad i’r wybodaeth hon.